Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 15 Mawrth
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4255
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 4 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd y cwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gwnaeth Hannah Blythyn ddatganiad am Fis Canser yr Ofari.
Gwnaeth Simon Thomas ddatganiad am Fiosffer Bro Ddyfi.
Dechreuodd yr eitem am 14.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
NDM6249 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Dai Lloyd AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2017 o dan Reol Sefydlog 26.91A.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.10
NDM6258 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2017.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 8 Mawrth 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.09
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6257
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn methu o ran pobl Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnwys ar ddiwedd y pwynt:
'a bod ei methiannau yn cael eu cymhlethu gan weithredoedd Llywodraeth Geidwadol y DU'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
2 |
39 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.17
Dechreuodd yr eitem am 17.20
NDM6256
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro):
Dinas Fach, Cyfle Mawr Unigryw - Cais Tyddewi i fod yn Ddinas
Ddiwylliant y DU.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.36
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Mawrth 2017